aadlais o Daniel 7:3-8
bgw. Daniel 7:8,25; 11:36
c adlais o Jeremeia 15:2 a 43:11

Revelation of John 13

1a gwelais anghenfil yn dod allan o'r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o'i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o'i bennau. 2Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a'i geg fel ceg llew. a Dyma'r ddraig yn rhoi iddo ei grym a'i gorsedd a'i hawdurdod mawr. 3Roedd un o bennau yr anghenfil yn edrych fel petai wedi derbyn anaf marwol, ond roedd yr anaf wedi cael ei iacháu. Roedd pobl y byd i gyd wedi eu syfrdanu gan hyn ac yn dilyn yr anghenfil. 4Roedden nhw'n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i'r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw'n siantio “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!”

5Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio ei awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd. b 6Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd. 7Cafodd ganiatâd i ryfela yn erbyn pobl Dduw ac i'w concro nhw, a cafodd awdurdod dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl. 8Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil – pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth).

9Dylai pawb wrando'n ofalus ar hyn!

10 Y rhai sydd i gael eu caethiwo,
byddan nhw'n cael eu caethiwo.
Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf,
byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. c

Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.

Yr anghenfil o'r ddaear

11Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig. 12Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â'r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu. 13Roedd yn gwneud gwyrthiau anhygoel – hyd yn oed yn gwneud i dân ddisgyn o'r nefoedd i'r ddaear o flaen llygaid pawb. 14Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i'r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i'r anghenfil cyntaf oedd wedi ei anafu gan y cleddyf ac eto'n dal yn fyw. 15Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw'n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd. 16Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. 17Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw.

18Mae angen doethineb i ddeall hyn. Bydd y rhai sydd â dirnadaeth yn deall beth ydy ystyr rhif yr anghenfil – mae'n cynrychioli person arbennig. Y rhif ydy chwe chant chwe deg chwech.

Copyright information for CYM